Business and Personal web pages from United Kingdom (UK) Search result

Raglan Castle / Castell Rhaglan

Raglan Castle / Castell Rhaglan

Raglan castle, Raglan ,
Everything’s great about this place, from its great tower, which evokes memories of earlier fortresses like Caernarfon, to the great gatehouse, which ‘wows’ the visitor just as its owner intended. If, as they say, an Englishman’s home is his castle, then William Herbert’s Raglan is the Welshman’s equivalent. Built for show rather than with battle in mind, it still held off Oliver Cromwell’s forces for thirteen weeks in one of the last sieges of the Civil War. The castle was eventually taken and was systematically destroyed by parliament. Enough remains to still impress. Raglan was begun in the 1430s, rather late in the day for castle building. Unfashionably late by some 150 years! Despite this, mod cons such as massive mullioned windows brought the design bang up-to-date, bathing rooms in luxurious light. The oriel window, a bay to end all bay windows, is one of Raglan’s defining features. It lit up the high table at the dais end of the hall. Raglan also boasted a long gallery, the very height of fashionable living in the Tudor period. Intricately carved wooden panels were de rigueur and Raglan’s very own lost (and found!) Tudor panel is on show in our visitor centre. We’re also rather proud of our use of Bluetooth technology. Use your mobile phone to download audio stories for an insight into castle life. ------------------------------------------------------------------------------------------------ Mae popeth am y lle hwn yn fawreddog, o’i dŵr mawr, sy’n dwyn cestyll cynharach fel Caernarfon i gof, i’r porthdy mawr, sy’n creu cryn argraff ar yr ymwelydd fel y bwriadai ei berchennog. Castell pawb ei dŷ ac roedd hynny’n wir i William Herbert. Yn fwy o ddatganiad o gyfoeth nag o bresenoldeb milwrol, llwyddodd serch hynny i wrthsefyll lluoedd Oliver Cromwell am dair wythnos ar ddeg, yn un o warchaeau olaf y Rhyfel Cartref. Cipiwyd y castell yn y pen draw a’i ddinistrio’n systematig gan y senedd. Ond mae’n ddigon cyflawn o hyd i greu argraff. Dechreuwyd ar y gwaith o adeiladu Rhaglan yn y 1430au, cyfnod cymharol hwyr o ran adeiladu cestyll. Tua 150 mlynedd yn hwyr! Er gwaethaf hyn, sicrhaodd cyfleusterau modern fel ffenestri mawr â physt fod yr adeilad yn un cyfoes a bod yr ystafelloedd yn fôr o oleuni. Y ffenestr oriel, ffenestr grom heb ei hail, yw un o nodweddion amlycaf Rhaglan. Roedd yn taflu goleuni ar y bwrdd uchel ar esgynlawr y neuadd. Roedd gan Raglan oriel hir hefyd, un o nodweddion bywyd ffasiynol cyfnod y Tuduriaid. Roedd yn hanfodol cael paneli pren wedi’u cerfio’n goeth ac mae panel Tuduraidd Rhaglan a ddarganfuwyd wedi iddo fod ar goll yn cael ei arddangos yn ein canolfan i ymwelwyr. Rydym hefyd yn falch o’n defnydd o dechnoleg Bluetooth. Gallwch ddefnyddio eich ffôn symudol i lawrlwytho straeon llafar er mwyn cael cipolwg ar fywyd yn y castell.